Mae nifer y troseddau sy’n ymwneud â gynnau neu gyllyll wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr.

Fe gafodd 32.448 o droseddau yn ymwneud â chyllyll eu cofnodi yn 2016 – cynnydd o 14% ar y flwyddyn flaenorol. Roedd y troseddau hyn yn cynnwys treisio, ymosodiadau rhyw a lladrata.

Fe aeth nifer y troseddau yn ymwneud â gynnau i fyny 13% i 5,864.

Ar y cyfan, fe gofnodwyd cyfanswrm o 4.8 miliwn o droseddau gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr yn 2016 – cynnydd o 9% ar gyfanswm 2015. Yn ol y Swyddfa Ystadegau Genedlaethol (ONS) gallai’r cynnydd fod o ganlyniad yn y newid yn y modd y mae troseddau’n cael eu cofnodi.