Y gwasanaethau brys yn helpu un o’r rhai a gafodd eu hanafu yn y digwyddiad yn Jerusalem heddiw (llun: AP/Mahmoud Illean)
Mae dynes ifanc o Brydain wedi cael ei thrywanu i farwolaeth tra ar wyliau yn Jerusalem.

Ymosodwyd ar y ddynes, y credir ei bod yn ei 20au cynnar, mewn tram gerllaw’r Hen Ddinas y bore yma. Cafodd ei rhuthro i ganolfan feddygol, lle bu farw’n fuan wedyn. Dioddefodd dau o bobl eraill fân anafiadau yn y digwyddiad.

Cafodd dyn 57 oed ei arestio yn y fan a’r lle, a dywedodd llefarydd ar ran heddlu Israel ei fod yn Balesteiniad oedd ymddangos ei fod yn dioddef o “broblemau meddwl”.

Mae uchel swyddog o’r heddlu wedi disgrifio’r ymosodwr fel “brawychwr Arabaidd”.

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Dramor Prydain eu bod mewn cyswllt ag awdurdodau yn Jeruslam wedi digwyddiad yno heddiw.