John McDonnell, Canghellor yr wrthblaid, LLun: PA
Byddai llywodraeth Lafur yn deddfu i rwystro banciau rhag cau canghennau a bygwth dyfodol prif strydoedd trefi bach.

O dan gynlluniau a gyhoeddwyd gan Ganghellor yr Wrthblaid, John McDonnell, byddai’n ofynnol yn gyfreithiol i fanciau ymgynghori â chwsmeriaid a’r cyngor lleol, a chael cymeradwyaeth yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol cyn cau cangen.

Dywed John McDonnell fod angen mesurau o’r fath i rwystro ‘epidemig’ o ganghennau’n cau, gan ddifrodi cymunedau a busnesau bach sy’n ddibynnol ar eu gwasanaethau.

Amcangyfrifir bod 1,046 o ganghennau banc wedi cau ym Mhrydain rhwng mis Rhagfyr 2015 a mis Ionawr eleni, gyda 486 arall yn wynebu’r fwyell.

“Mae’n bryd i’n banciau gydnabod eu cyfrifoldeb wrth ddarparu gwasanaeth hanfodol i’r cyhoedd,” meddai John McDonnell.

“Dim ond Llafur fydd yn gosod yr ymrwymiadau cyfreithiol sydd eu hangen i gadw trefn ar y banciau ac i sefyll dros ein strydoedd, cymunedau a busnesau bach.”