Glyn Williams, Llywydd yr Annibynwyr Cymraeg (llun: Undeb yr Annibynwyr)
Yr angen i gael gwared ar y casineb sy’n arwain at ddefnyddio arfau cemegol yw neges un o arweinwyr Cristnogol Cymru ar gyfer y Pasg.
“Casineb yw un o’r nodweddion dynol negyddol y mae’r Beibl yn galw’n bechod,” meddai Glyn Williams, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.
“Er bod arfau cemegol yn cael eu gwahardd gan Brotocol Genefa, mae cemegau fel Sarin yn dal i gael eu defnyddio i ladd pobl yn y modd mwyaf erchyll.
“Cynnyrch labordy yw Sarin, ond mae’r defnydd ohono yn gynnyrch casineb dyn yn erbyn cyd-ddyn.
“Dioddefodd Iesu ei hun ganlyniadau casineb pan gafodd ei arteithio a’i ladd am bregethu cariad Duw yn hinsawdd wleidyddol wenwynig y Dwyrain Canol yn y ganrif gyntaf.
“Ond mae buddugoliaeth Crist dros bechod a marwolaeth ei hun yn arwydd o allu Duw i’n glanhau ni o’r pethau hynny sy’n gwenwyno ein bywydau – ar lefel bersonol a chymdeithasol. “Dim ond grym cariad Duw all waredu dynoliaeth o’r casineb gwenwynig sy’n arwain at ryfel a’r defnydd o arfau cemegol i ladd dynion, menywod a phlant.”
Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn cynrychioli Anghydffurfwyr sy’n cwrdd mewn dros 400 o gapeli yng Nghymru a rhai yn Lloegr.