Brexit (Llun: PA)
Mae 50 o wleidyddion Ewropeaidd wedi llofnodi llythyr yn datgan eu cefnogaeth i’r syniad o groesawu’r Alban i’r Undeb Ewropeaidd fel gwlad annibynnol.
Cafodd y llythyr ei anfon at Lywydd Senedd yr Alban, Ken Macintosh.
Ymhlith y gwledydd sy’n cefnogi’r syniad mae’r Almaen, Ffrainc, yr Eidal, Sbaen, Gwlad Belg, Portiwgal, Sweden, Gwlad Groeg, Hwngari a Malta.
Ymhlith yr unigolion sydd wedi llofnodi’r llythyr mae:
- Reinhard Hans Butikofer (Gwyrddion yr Almaen)
- Miriam Dalli (Llafur Malta)
- Giorgos Dimaras (Gwyrddion Gwlad Groeg)
- Tanja Fajon (Democratiaid Sosialaidd Slofenia)
- Frederick Federley (Plaid Ganol Sweden)
- Barbara Matera (Plaid Pobol Ryddid yr Eidal)
- Andre Gattolin (Seneddwr Ffrainc ac ecolegydd)
Dywed y llythyr fod “democratiaeth a pharch cilyddol wrth galon y prosiect Ewropeaidd ac felly, tra ein bod yn drist ynghylch pleidlais mwyafrif bach o’r Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd, rydym yn parchu hyn fel penderfyniad democrataidd trigolion y DU.
“Rydym yn cydnabod, fodd bynnag, nad eich penderfyniad chi oedd hyn a bod yr Alban wedi pleidleisio’n gryf o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
“Mae’r cwestiwn am ddyfodol cyfansoddiadol yr Alban, a’ch perthnasau chi gyda’r DU a’r Undeb Ewropeaidd yn fater i bobol yr Alban ei benderfynu.
“Nid ein lle ni yw dweud wrth yr Alban pa lwybr i’w gymryd.”
Llythyr
Ychwanega’r llythyr fod y gwleidyddion yn siomedig ynghylch penderfyniad Llywodraeth Prydain i geisio ‘Brexit caled’ ac wedi wfftio teimladau pobol yr Alban yn y trafodaethau.
“Felly, pe bai’r Alban yn dod yn wlad annibynnol ac yn penderfynu ceisio cynnal aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, rydym yn cynnig ein cefnogaeth lawn er mwyn sicrhau bod y symudiad yn un cyflym, esmwyth ac mor drefnus â phosib.
“Byddai croeso cynnes i’r Alban fel aelod llawn o’r Undeb Ewropeaidd, gyda’ch pum miliwn o ddinasyddion Ewropeaidd yn parhau i elwa o’r hawliau a’r gwarchodaeth ry’ch chi’n eu mwynhau ar hyn o bryd.”
Annibyniaeth
Mae Aelodau Seneddol yr Alban wedi pleidlesio yn Holyrood – o 69 i 59 – i geisio caniatâd i gynnal ail refferendwm annibyniaeth.
Ond mae Llywodraeth Prydain yn mynnu “nad nawr yw’r amser”.