Holyrood
Mae mwyafrif o bobol yr Alban yn credu mai Senedd y wlad honno ddylai gael dewis os fydd ail refferendwm annibyniaeth yn cael ei chynnal, yn ôl pôl piniwn.

Roedd 53% o bobol a gafodd eu holi yn credu mai Holyrood ddylai benderfynu os fydd y refferendwm yn cael ei chynnal, a 35% o blaid rhoi’r cyfrifoldeb yn nwylo senedd San Steffan.

Gwnaeth yr arolwg hefyd ddangos bod mwyafrif o 54% yn credu na ddylai San Steffan gael yr hawl i rwystro cynlluniau am ail bleidlais.

Roedd hanner o’r bobol a gafodd eu holi yn credu mai Senedd yr Alban ddylai gael penderfynu pryd oedd y bleidlais yn cael ei chynnal, 39% yn ffafrio San Steffan a 11% ddim yn siŵr.

Cais am refferendwm

Daw’r darganfyddiadau wrth i Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, ddanfon cais ffurfiol at Lywodraeth Prydain yn gofyn am bwerau i gynnal ail refferendwm – mae Llywodraeth Prydain eisoes wedi dweud ei bod am wrthod y cais.

Pleidleisiodd Holyrood wythnos yma o blaid danfon y cais ac mae Llywodraeth y wlad am weld refferendwm yn cael ei gynnal rhwng Hydref 2018 a Gwanwyn 2019.