Khalid Masood, ymosodwr Llundain, Llun: PA/Heddlu Metropolitan
Mae gwraig ymosodwr Llundain wedi ymateb yn gyhoeddus i weithredoedd ei gŵr gan eu “condemnio yn llwyr.”

Gwnaeth Rohey Hydara ei datganiad drwy Heddlu’r Metropolitan a hynny ddiwrnod wedi i fam Khalid Masood, Janet Ajao sy’n byw yn Nhrelech, Sir Gaerfyrddin, ddweud ei bod hithau wedi ei “brawychu a’i thristau.”

Yn ei datganiad, dywed y wraig ei bod wedi ei “thristau a’i synnu” gan yr hyn wnaeth Khalid Masood.

“Rwy’n mynegi fy nghydymdeimlad i deuluoedd y dioddefwyr sydd wedi marw ac yn dymuno gwellhad buan i’r rhai a anafwyd.

“Hoffwn ddymuno am breifatrwydd i’n teulu, yn enwedig y plant, yn y cyfnod anodd hwn.”

Cwestau unigol

Cafodd Khalid Masood, 52 oed, ei saethu’n farw gan blismyn arfog ar ôl iddo drywanu’r plismon Keith Palmer ger Palas San Steffan.

Dywed Scotland Yard nad yw wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth bod Khalid Masood yn gysylltiedig â’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) neu al Qaida ond ei fod yn “amlwg” bod ganddo ddiddordeb mewn jihad. Mae IS wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.

Bydd cwestau unigol i farwolaethau’r rhai gafodd eu lladd yn dechrau’r wythnos hon, sef Kurt Cochran o’r Unol Daleithiau oedd yn Llundain yn dathlu pen-blwydd priodas ruddem gyda’i wraig a gafodd ei hanafu hefyd yn ystod yr ymosodiad.

Y dioddefwyr eraill oedd y plismon Keith Palmer, Aysha Frade, 44 oed, a Leslie Rhodes, 75 oed.

Mae dau ddyn wedi’u harestio mewn cysylltiad â’r ymchwiliad ac yn parhau yn y ddalfa.