Ffair Arfau Caerdydd (llun: O wefan y ffair)
Mae cynrychiolwyr o grwpiau heddwch ar draws Cymru yn teithio i Gaerdydd heddiw i brotestio yn erbyn y ffair arfau sy’n dychwelyd i’r Arena Motorpoint ynghanol y brifddinas.

Un o’r rheiny yw Cydlynydd Cymdeithas y Cymod, sef Jane Harries o Ben-y-bont ar Ogwr, sy’n gwrthwynebu’r ffair Amddiffyniad, Ymchwil, Technoleg ac Allforio (DPRTE).

“Byddwn ni yna i brotestio yn erbyn y ffair a’r hyn mae’n ei gynrychioli,” meddai wrth Golwg360.

“Rydyn ni eisiau tynnu sylw at y ffaith fod y ffair yn digwydd, a bod cwmnïau fel BA Systems yn dod yno sy’n rhan o gynhyrchu arfau i wledydd fel Saudi Arabia sy’n bomio pobol gyffredin yn Yemen,” meddai.

Y Ffair

Mae trefnwyr y ffair yn dweud mai hon fydd y fwya’ eto, gan ddweud y bydd yn allweddol i’r broses o brynu a gwerthu arfau – marchnad sydd werth tua £19 biliwn ar draws gwledydd Prydain.

Y llynedd, cafodd chwech o bobol eu harestio yn sgil protest y tu allan i’r ffair ar gyhuddiadau o droseddau anrhefn a thresbas.

Bydd mudiadau fel ‘Na i Ffair Gaerdydd’ yn protestio yno hefyd, a dywedodd Dirprwy arweinydd Cyngor Caerdydd yr wythnos diwethaf, Sue Lent, y bydd hithau’n ymuno â’r protestiadau gan alw’r ffair yn “aflan.”