Theresa May (llun o'i chyfri Twitter)
Fe ddylai cwmnïau mawr y Rhyngrwyd wneud rhagor i rwystro deunydd eithafol rhag cael ei gyhoeddi, yn ôl Prif Weinidog Prydain.
Rhaid i’r gwefannau cymdeithasol a’r peiriannau chwilio atal deunydd a allai sbarduno ymosodiadau brawychol, meddai llefarydd ar ran Theresa May.
Mae’r pryder wedi codi o’r newydd ar ôl iddi ddod yn amlwg fod cyfarwyddiadau ar ymosod ar gael yn hawdd ar y rhyngrwyd ar ôl yr ymosodiad a laddodd bedwar o bobol yn San Steffan echdoe.
‘Gwneud mwy’
“Rhaid i’r frwydr yn erbyn brawychaeth a geiriau casineb fod yn un ar y cyd,” meddai’r llefarydd o rif 10 Downing Street. “Mae’r Llywodraeth a’r gwasanaethau diogelwch yn gwneud popeth a allan nhw; mae’n glir fod rhaid i’r cwmnïau cyfryngau cymdeithasol wneud mwy.”
Roedd yna rywfaint o rybudd i’r cwmnïau hefyd wrth iddo ddweud fod y mater bellach yn nwylo’r cwmnïau a bod y Llywodraeth yn aros i weld sut y byddan nhw’n ymateb.