Senedd Holyrood, Caeredin
Mae disgwyl i Aelodau Senedd yr Alban gefnogi’r alwad am ail refferendwm annibyniaeth wrth i bleidlais gael ei chynnal yn Holyrood heddiw.
Daw’r bleidlais yn sgil dadl deuddydd yn Senedd yr Alban ynglŷn ag os ddylai Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, ddanfon cais am refferendwm rhywbryd rhwng Hydref flwyddyn nesaf a Gwanwyn 2019.
Ar ddechrau trafodaethau ddydd Mawrth dywedodd Nicola Sturgeon y byddai hi’n “annheg a’n hollol anghynaladwy” os fyddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhwystro ei chais.
Mae Ceidwadwyr, Plaid Llafur a Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban wedi dweud eu bod yn mynd i bleidleisio yn erbyn cynnal ail refferendwm annibyniaeth.
 chefnogaeth y Blaid Werdd mae’n debygol y bydd Llywodraeth leiafrifol yr Alban yn medru pasio’r cynnig fydd yn caniatáu trafodaethau ynglŷn â throsglwyddo pwerau cyfreithiol, er mwyn cynnal y refferendwm.