Mae milwyr o wledydd Prydain wedi cyrraedd Estonia fel rhan o ymgyrch Nato yng ngwledydd y Baltic i dawelu’r bygythiad o du Rwsia.

Glaniodd oddeutu 120 o filwyr o 5ed Bataliwn y Reifflwyr yn Amari, 25 milltir o’r brifddinas Tallinn, brynhawn ddoe.

Cawson nhw groeso swyddogol i’r wlad gan weinidog amddiffyn Estonia, Margus Tsahkna.

Mae disgwyl i hyd at 800 o filwyr o wledydd Prydain gael eu lleoli yn y wlad yn ystod un o’r ymgyrchoedd milwrol mwyaf gan Lywodraeth Prydain yn Ewrop ers rhai degawdau.

Byddan nhw’n cydweithio â milwyr o Ffrainc a Denmarc er mwyn “brwydro yn erbyn grym galluog” er mwyn gwarchod Nato, meddai’r Weinyddiaeth Amddiffyn.