Mae aelodau seneddol Llafur yn galw ar i Lywodraeth Prydain adolygu ei chytundebau gyda’r cwmni diogelwch G4S.

Daw’r alwad ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod ysgrifenyddes gyda’r cwmni wedi colli ei swydd ar ôl gwisgo penwisg draddodiadol i’r gwaith yn 2006.

Arweiniodd achos Samira Achbita at ddyfarniad yn Llys Cyfiawnder Ewrop sy’n rhoi’r hawl i gyflogwyr wahardd unrhyw symbolau gwleidyddol neu grefyddol o’r gweithle.

Mae’r Aelod Seneddol Foslemaidd wedi galw am adolygiad o gytundebau G4S oherwydd bod eu hymddygiad yn “annerbyniol”.

Ychwanegodd cyn-lefarydd gwaith a phensiynau’r Blaid Lafur, Helen Goodman: “Ry’n ni i gyd yn gwybod fod cymhelliant diwylliannol i hyn.”

Wrth ymateb, dywedodd y Gweinidog Cydraddoldeb, Caroline Dinenage nad oedd yr achos yn ymwneud â gwledydd Prydain gan fod y ddynes yn gweithio yng ngwlad Belg. Ond dywedodd fod agweddau at grefydd yn cael eu hystyried wrth ddyfarnu cytundebau.

“Mae goddefgarwch crefyddol a goddefgarwch yn gyffredinol yn bethau ry’n ni’n eu hystyried wrth ystyried cytundebau’r Llywodraeth.”