Nicola Sturgeon
Mae Prif Weinidog yr Alban wedi gwrthod diystyru’r posibilrwydd o gynnal ail refferendwm annibyniaeth y flwyddyn nesaf.
Wrth siarad am amseriad ail refferendwm ar raglen BBC2 Brexit: Britain’s Biggest Deal dywedodd Nicola Sturgeon nad oedd am “ddiystyru unrhyw opsiwn”.
Tra’n cael ei chyfweld cafodd Hydref 2018 ei gynnig fel mis posib i gynnal refferendwm, ac ymatebodd Nicola Sturgeon trwy ddweud: “Tua’r adeg yna, pan ddaw amlinelliad dêl Brexit y Deyrnas Unedig yn glir.”
Yn ystod refferendwm Medi 2014 fe bleidleisiodd 55% o Albanwyr tros aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig, ond fe bleidleisiodd dau draean o Albanwyr i aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd yn ystod refferendwm y llynedd.
Yn ôl Nicola Sturgeon, mae cefnogaeth Albanwyr at yr Undeb Ewropeaidd a chynlluniau Llywodraeth i adael y farchnad sengl wedi cryfhau ei mandad ar gyfer cynnal IndyRef2.
Yn Ionawr eleni, fe ddywedodd cyn-Brif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, y byddai ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban yn bosib ym mis Hydref 2018.