Mae disgwyl i’r canghellor Philip Hammond gyflwyno ei gyllideb wanwyn gyntaf heddiw, ac mae disgwyl y bydd yn cyflwyno cynlluniau economaidd Prydain yn wyneb gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae disgwyl iddo ddweud ei fod yn barod i gymryd “penderfyniadau anodd” pellach ar drethu a thoriadau gwariant.
Ond drwy hyn, bydd yn pwysleisio fod cynllun economaidd Llywodraeth Prydain yn ymrwymedig i greu sefyllfa “gadarnach, tecach a gwell” i wledydd Prydain y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.
Mae adroddiadau y bydd yn cyhoeddi buddsoddiadau ychwanegol ar gyfer gofal iechyd a chymdeithasol dros y ddwy flynedd nesaf i lacio’r pwysau ar y gwasanaethau iechyd.
Ac mae adroddiadau ei fod yn ystyried cynyddu’r tollau ar alcohol ynghyd â chynlluniau i fuddsoddi mewn ysgolion newydd ar draws Lloegr gan gefnogi ymrwymiad Theresa May i greu ysgolion gramadeg newydd yn Lloegr.