Pencadlys Standard Life yng Nghaeredin (Llun: Stefan Schaffer CCA 3.0)
Mae Standard Life ac Aberdeen Asset Management wedi cytuno ar gynllun i uno gwerth £11 biliwn, a fydd yn arwain at sefydlu’r cwmni rheoli asedau mwyaf yng ngwledydd Prydain.
Bydd y cytundeb rhwng y ddau gwmni yn arwain at greu cwmni a fydd yn gyfrifol am werth £660 biliwn o asedau.
O dan delerau’r cytundeb, mi fydd cyfranddalwyr Aberdeen yn berchen 33.3%, a chyfranddalwyr Standard Life yn berchen 66.7% o’r grŵp newydd.
Ond credir y gall y cytundeb i uno arwain at golli cannoedd o swyddi yn yr Alban ac yn y Ddinas yn Llundain wrth i’r cwmnïau geisio gwneud arbedion gwerth £200 miliwn.
Mae Standard Life yng Nghaeredin yn cyflogi mwy na 8,000 o staff ac mae gan Aberdeen Asset Management mwy na 2,800 o weithwyr.
Serch hynny, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth yr Alban eu bod yn croesawu’r cytundeb a’i fod yn “bleidlais o hyder yn y sector ariannol yn yr Alban.”
Yn ôl Pennaeth Aberdeen Asset Management, Martin Gilbert, bydd uno’r ddau gwmni yn eu galluogi “i gystadlu yn effeithlon yn rhyngwladol.”
Bydd pencadlys y cwmni newydd yn yr Alban gyda Chadeirydd Standard Life Syr Gerry Grimstone, yn cadeirio drosto a phenaethiaid y ddau gwmni yn cyd-benaethiaid.
Mae buddsoddwyr wedi croesawu’r newyddion gyda chyfrannau Standard Life wedi codi 5.4% prynhawn ma ac Aberdeen wedi cynyddu 4.5%.