Dydi teuluoedd 96 o gefnogwyr pêl-droed Lerpwl a fu farw yn nhrychineb Hillsborough yn 1989 ddim wedi ennill yr hawl i ymyrryd mewn ffrae yn y llys rhwng Heddlu De Swydd Efrog a chyn-Brif Gwnstabl yr heddlu, David Crompton.

David Crompton sydd wedi dwyn yr achos yn erbyn ei gyn-gyflogwyr ar ôl iddyn nhw ofyn iddo ymddiswyddo ar ôl dyfarniad llys y llynedd oedd yn dweud bod y cefnogwyr wedi cael eu lladd yn anghyfreithlon.

Cafodd David Crompton ei ddiarddel o’i waith yn dilyn y dyfarniad fis Ebrill y llynedd.

‘Na’ i dystiolaeth 

Fe fydd adolygiad barnwrol o’r penderfyniad i’w orfodi o’i swydd yn cael ei gynnal ar Fawrth 28 a 29.

Roedd pump aelod o’r teuluoedd – Dorothy Griffiths, Barry Devonside, Becky Shah, Wendy Hamilton a Charlotte Hennessy – wedi gofyn am ganiatâd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig ac ar lafar yn y gwrandawiad.

Yn ôl cyfreithwraig ar ran y pump, bydden nhw wedi gallu gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r achos.

Ond roedd cyfreithwyr ar ran David Crompton yn mynnu y byddai rhoi’r hawl iddyn nhw gyflwyno tystiolaeth yn achosi oedi ac y byddai’n ddrud.

Wrth wneud penderfyniad, dywedodd y barnwr, Ustus Sharp, na fyddai tystiolaeth y teuluoedd yn berthnasol i’r achos.

Mae David Crompton yn gwadu ei fod e wedi rhoi buddiannau’r heddlu uwchlaw lles y teuluoedd.

Roedd yr ail gwest i farwolaethau’r cefnogwyr yn honni bod yr heddlu wedi ceisio rhoi’r bai am y trychineb ar y cefnogwyr oherwydd eu hymddygiad honedig – ac roedd y crwner yn cytuno bod hynny wedi digwydd.

Yn dilyn y dyfarniad, roedd David Crompton yn dal i gyfeirio at ymddygiad y cefnogwyr wrth siarad am y trychineb.