Mae adroddiadau bod newyddiadurwr ymhlith y rhai cyntaf i gael eu cosbi dan y drefn newydd am ddefnyddio ffôn symudol wrth y llyw – a hynny ar ei ffordd i lansiad y cynllun gan yr heddlu.
Yn ôl y newyddiadurwr Dominic Reynolds, sy’n gweithio i ITN ar raglen newyddion Channel 5, cafodd y newyddiadurwr di-enw ei ddal ar ei ffordd i’r digwyddiad yn Swydd Rydychen y bore ma.
Mae’r gosb wedi dyblu i chwe phwynt a dirwy o £200, gyda gyrwyr newydd yn wynebu’r posibilrwydd o gael diddymu eu trwydded ar unwaith.
Gall gyrwyr newydd gael diddymu eu trwydded os ydyn nhw’n casglu chwe phwynt yn ystod y ddwy flynedd gyntaf – a gallai anfon un neges destun arwain at hynny bellach.
Gall gyrwyr mwy profiadol gael diddymu eu trwydded os ydyn nhw’n casglu 12 pwynt dros gyfnod o dair blynedd.
Arweiniodd y defnydd o ffôn symudol at 22 o farwolaethau a 99 o anafiadau difrifol ar ffyrdd gwledydd Prydain yn 2015.