Llun: PA
Mae’r gwrandawiad cyhoeddus cyntaf yn yr ymchwiliad annibynnol i honiadau hanesyddol o gam-drin plant o Gymru a Lloegr wedi dechrau heddiw.

Mae’r gwrandawiad cyntaf yn canolbwyntio ar “hanes cywilyddus” rhwng 1945 a 1970 pan gafodd miloedd o blant o gefndiroedd di freintiedig eu hanfon i ddechrau bywyd newydd yn Awstralia.

Yn dilyn ymddiheuriad swyddogol gan Gordon Brown yn 2010 i’r plant gafodd eu heffeithio, dyma fydd yr ymchwiliad cyntaf i archwilio’r honiadau o arteithio, camdriniaeth rywiol a chaethwasanaeth.

“Mae yna dystiolaeth ddigonol bod llywodraeth y Deyrnas Unedig ac asiantaethau wedi bod yn ymwybodol o safon isel y gofal mewn sefydliadau yn Awstralia yn yr 1940au ac 1950au, ac mewn rhai achosion, o gam-drin rhywiol,” meddai llefarydd ar ran y Child Migrants Trust, Aswini Weereratne.

Bydd yr ymchwiliad eang yn craffu ar 13 o sefydliadau gan gynnwys awdurdodau lleol a’r fyddin am fethiannau diogelu plant, ac yn ystyried cyhuddiadau o gam-drin yn erbyn ffigyrau blaenllaw.