Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio ar ôl i gorff dyn gael ei ddarganfod ar stryd yn Sir Down yng Ngogledd Iwerddon.
Daethpwyd o hyd i gorff y dyn, oedd yn ei 20au, yn Newtownards am 5.30 y bore ma.
Mae lle i gredu bod y ddau ddyn wedi ymosod arno y tu allan i’w gartref.
Mae ymchwiliad ar y gweill, ac mae’r ddau ddyn 19 oed yn cael eu holi yn y ddalfa.