Mae teulu Jean Charles de Menezes wedi beirniadu Heddlu Llundain am benodi Cressida Dick yn bennaeth newydd.

Hi oedd yn arwain yr ymchwiliad a arweiniodd at saethu’r gŵr o Frasil yn farw ar drên tanddaearol yn Llundain yn 2005. Roedd e wedi cael ei gamgymryd am ddyn oedd yn cael ei amau o fod yn hunanfomiwr.

Fe ddaeth ymchwiliad i’r casgliad nad oedd Cressida Dick wedi gwneud unrhyw beth o’i le.

‘Pryderon difrifol’

Mewn datganiad, dywedodd teulu Jean Charles de Menezes fod ganddyn nhw “bryderon difrifol” am y penderfyniad i benodi Cressida Dick i’r swydd.

“Fe fu’n rhaid i ni wynebu trasiedi na ddylai unrhyw deulu orfod ei hwynebu; marwolaeth drasig anwylyd dan law’r rheiny roedden ni’n ymddiried yndydn nhw i’n gwasanaethu a’n gwarchod.

“Ar frig yr heddlu ar y diwrnod tyngedfennol hwnnw pan gafodd Jean ei ladd roedd Cressida Dick. Neges y penodiad heddiw yw y gall plismyn weithredu heb gael eu cosbi.

“Comisiynydd Heddlu Llundain yw’r plismon uchaf yn y wlad, swydd lle mae disgwyl y safonau uchaf o ran proffesiynoldeb, ennyn ymddiriedaeth y cyhoedd a bod yn gyfrifol am sicrhau bod yr heddlu’n gweithredu’n gyfreithlon ac yn cael eu dwyn i gyfri.”