Yr Esgob Pete Broadbent - dim argoel o undod (o wefan ei esgobaeth)
Mae ymgyrchwyr hawliau LGBT wedi croesawu pleidlais corff rheoli Eglwys Lloegr, y Synod Cyffredinol, yn erbyn adroddiad dadleuol ar briodasau o’r un rhyw.

Roedd yr adroddiad gan Fainc yr Esgobion yn parhau gyda gwrthwynebiad yr Eglwys i briodasau un rhyw ac na ddylai perthnasau o’r fath gael eu bendithio.

Yn ôl yr adroddiad, fe ddylai priodasau barhau yn “uniad parhaol gydol oes rhwng un dyn ac un ddynes.”

Yn annisgwyl, neithiwr, fe gafodd yr adroddiad ei wrthod gan offeiriaid yr Eglwys – er i’r esgobion a’r aelodau lleyg ei dderbyn.

Fe gafodd ei feirniadu am fethu â rhoi llais i bobol hoyw, ond mae Efengylwyr wedi awgrymu ei fod yn mynd yn rhy bell.

Mae’r bleidlais yn golygu bod angen i Fainc yr Esgobion lunio adroddiad arall, gan ystyried barn y Synod.

Camau nesaf

Wrth i ymgyrchwyr tros hawliau lesbaidd, hoyw, deurywiol a traws – LGBT – .groesawu’r penderfyniad a’i alw’n “bleidlais trpos gariad”, mae eraill wedi rhybuddio am rwygiadau o fewn yr Eglwys.

Fe ddywedodd Esgob Willesden yn Llundain, y Parchedig Pete Broadbent, nad oedd yr Eglwys wedi “hyd yn oed dechrau” ceisio dod o hyd i safle unedig ar y mater.

“Dydyn ni ddim yn gwybod eto beth yw’r cam nesa’ – na phryd nac os y gallwn ni gyflwyno adroddiad pellach i’r Synod,” meddai.