Alexander Blackman Llun: Y Weinyddiaeth Amddiffyn
Mae apêl i wyrdroi dyfarniad llofruddiaeth cyn-aelod o’r Morlu Brenhinol  wedi dechrau yn Llundain heddiw.

Cafodd y Sarsiant Alexander Blackman, 42 oed, o Wlad yr Haf ei ddyfarnu’n euog o lofruddio gwrthryfelwr o Afghanistan ym mis Tachwedd 2013 pan oedd yn gwasanaethu yn nhalaith Helmand yn 2011.

Cafodd ddedfryd oes dan glo, gyda hynny’n cael ei leihau i wyth mlynedd yn 2014, wedi iddo saethu gwrthryfelwr yn ei frest ar ôl iddo gael ei anafu’n ddifrifol mewn ymosodiad hofrennydd Apache.

Bellach, mae tystiolaeth newydd am gyflwr meddwl Alexander Blackman wedi dod i’r fei wedi i’w achos gael ei gyfeirio at Gomisiwn Adolygu Achosion Troseddol (CCRC).

Mae’r dystiolaeth yn awgrymu y gallai’r Llys Apêl y Llysoedd Marsial “ddileu euogfarn llofruddiaeth Blackman.”

Yn ystod ei achos gwreiddiol, roedd yn gwadu llofruddiaeth gan ddweud ei fod yn meddwl fod y person wedi marw yn barod.