(llun: PA)
Gallai system fewnfudo Prydain gael ei theilwra i anghenion gwaith ardaloedd lleol, mewn cynnig ar gyfer mewnfudo wedi Brexit.

Bydd ardaloedd yn gallu blaenoriaethu rolau fel peirianneg neu wyddoniaeth yn unol ag anghenion eu heconomi leol, dan gynlluniau’r Sefydliad Ymchwil i Bolisi Cyhoeddus.

A gallai rheolau mwy llym fod mewn sectorau lle gall mewnfudo fod yn tanseilio cyflogau, meddai’r grŵp ymchwil.

Mae’n galw am fodel sy’n canolbwyntio ar unrhyw brinder yn y farchnad lafur leol ar ôl i’r wlad adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dan y cynllun, y Swyddfa Gartref byddai’n cadw’r cyfrifoldebau mwyaf, i sicrhau nad yw’r system yn cael ei cham-drin.

Dod â rhyddid i symud i ben

Mae disgwyl i Weinidogion amlinellu eu cynigion ar gyfer diwygio’r system fewnfudo maes o law ac mae disgwyl y byddan nhw’n cynnwys cyfyngiadau ar ryddid pobol i symud.

“Mae diwedd rhyddid pobol i symud yn cynnig cyfle prin i feddwl yn greadigol am y ffordd gall ein system fewnfudo weithio i ardaloedd lleol,” meddai Chris Murray, ymchwilydd gyda’r grŵp.

“Mae gennym wlad fawr ac amrywiol sydd â marchnadoedd llafur gwahanol iawn mewn ardaloedd gwahanol.

“Byddai cyflwyno elfen ranbarthol i’n system fewnfudo yn adlewyrchu’r realiti hynny, ac yn diogelu ein ffiniau.”

Mae’r cynlluniau, a edrychodd ar ogledd-ddwyrain Lloegr fel astudiaeth achos, yn argymell creu cynghorau mewnfudo lleol.

Galw am bwerau mewnfudo i Gymru

Ddechrau’r mis, fe wnaeth Aelodau Seneddol ac aelodau o Dŷ’r Arglwyddi alw am newid y system i roi pwerau mewnfudo i wahanol ranbarthau.

Byddai hynny’n golygu bod Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael y pwerau i greu system fewnfudo i’w hunain.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud na fyddai unrhyw un o’r llywodraethau datganoledig yn cael ei system fewnfudo ei hun wedi Brexit.