Tyfodd economi Prydain 0.6% yn ystod tri mis ola’r flwyddyn ddiwetha’, yn ôl adroddiad.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol, datblygiad yn y sector gwasanaethau a chynnydd mewn gwariant oedd yn bennaf gyfrifol am y twf.

Bu twf o 1.7% yn niwydiannau gwestai a thai bwyta, 0.1% yn y diwydiant adeiladu a thwf o 0.4% i amaeth yn ystod tri mis diwetha’ 2016.

Cynyddodd economi Prydain 2% dros y flwyddyn gyfan o gymharu â 2015. Mae’r cynnydd yn uwch nag oedd economegwyr wedi disgwyl gan fod nifer wedi rhagweld y byddai pleidlais Brexit wedi arafu’r twf.

Gwariant cryf

Yn ôl Pennaeth Cynnyrch Domestig Gros y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol, Darren Morgan:

“Gwariant cryf gan gwsmeriaid wnaeth gefnogi twf y sector wasanaethau ac er bu gwelliant yn niwydiant cynhyrchu, doedd dim newid mawr i’r diwydiant nac i’r diwydiant adeiladu dros y flwyddyn gyfan.”

Awgrymodd ystadegau mewn adroddiad gynt bod siopau wedi gwerthu llai dros Nadolig wrth i siopwyr wario llai ar ddillad, esgidiau a nwyddau i’r tŷ.