Mae Aelodau Seneddol wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gyhoeddi papur gwyn yn amlinellu eu cynlluniau am adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl Ysgrifennydd Tramor yr wrthblaid, fydd Llafur ddim yn rhwystro cynlluniau’r Llywodraeth o ran tynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd, ond mi wnaeth hi addo y byddai’r blaid yn “brwydro” yr achos.

“Amlinellwyd ‘cynllun’ mewn araith y tu allan i’r senedd pan oedd [y Prif Weinidog] ddim yn atebol, felly rydym ni eisiau papur gwyn,” meddai Emily Thornberry ar raglen Newsnight y BBC nos Fawrth. 

Yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys, mi fydd yn rhaid i’r Llywodraeth ennill cefnogaeth aelodau seneddol cyn tanio prosesau Erthygl 50.

Amserlen Brexit

Mae’r Llywodraeth wedi mynnu na fydd y dyfarniad yn effeithio nod Prif Weinidog Theresa May o ddechrau prosesau Erthygl 50 erbyn diwedd mis Mawrth.

Mae disgwyl i ddeddfwriaeth Brexit cael ei gyflwyno yn fuan fel bod y Llywodraeth yn cadw i’w hamserlen.