Mae nifer y troseddau gafodd eu cyflawni yng Nghymru y llynedd wedi dyblu – a hynny oherwydd bod achosion o dwyll ar y we yn cael eu cyfri’ am y tro cynta’ erioed.
Yn ôl Arolwg Troseddau Lloegr a Chymru sy’n cael ei gyhoeddi’n flynyddol gan Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol (ONS), fe gafodd 11.6 miliwn trosedd ei chyflawni rhwng 2015 a 2016.
Fe gafodd troseddau seibr eu hychwanegu i’r arolwg yn Hydref 2015, ac yn y flwyddyn yn arwain at Hydref 2016 fe gyflawnwyd 3.6 miliwn o achosion o dwyll, ac ychydig dros ddwy filiwn o droseddau cyfrifiadurol yn Lloegr a Chymru.
Natur troseddau wedi newid
“Yn y gorffennol, bwrgleriaeth a lladrata cerbydau oedd y troseddau fyddai’n digwydd amlaf ond mae eu niferoedd wedi disgyn yn sylweddol ers hynny,” meddai John Flatley o’r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol.
“Pan sefydlwyd Arolwg Troseddu Lloegr a Chymru, doedd twyll ddim yn cael ei ystyried fel bygythiad ystyrlon, a doedd y rhyngrwyd heb gael ei dyfeisio… mae ffigurau heddiw yn dangos sut mae trosedd wedi newid.”