Mae llai na hanner o ddisgyblion Cymru wedi llwyddo i ennill gradd A*-C yn eu TGAU Mathemateg a Rhifedd, ar ôl diwygio’r cwrs.
Fe safodd 51,439 yr arholiad TGAU Mathemateg, ac fe basiodd 89.7% o’r rheiny (46,140 o ddisgyblion) gyda gradd rhwng A*-G.
46.1% o ddisgyblion oedd yn sefyll eu harholiadau ym mis Tachwedd 2016 a lwyddodd i ennill y graddau uchaf (A*-C), a’r 43.6% arall a lwyddodd i basio yn cael gradd rhwng D a G.
Daw’r canlyniadau dros flwyddyn ar ôl i Lywodraeth Cymru a CBAC ddiwygio’r ddau TGAU newydd – Mathemateg a Mathemateg Rhifedd ym mis Medi 2015.
Beth yw’r gwahaniaeth?
Pwrpas Mathemateg Rhifedd yw dysgu’r fathemateg y bydd ei hangen ar ddisgyblion yn eu bywyd bob dydd, ym myd gwaith ac ym meysydd eraill yn y cwricwlwm.
Mae’r TGAU Mathemateg yn canolbwyntio’n fwy ar ochr wyddonol y pwnc, sy’n angenrheidiol i symud ymlaen i astudio pynciau gwyddonol neu fathemateg bellach.
Ers rai blynyddoedd bellach, mae CBAC wedi rhoi’r cyfle i ddisgyblion blwyddyn 10 ac 11 sefyll rhai o’u harholiadau TGAU ym mis Tachwedd, gan roi cyfle iddyn nhw naill ai sefyll yr arholiad yn gynnar neu ail-sefyll os byddan nhw am wella eu gradd.
“Dylai myfyrwyr ac athrawon ledled Cymru fod yn falch iawn o’r llwyddiant sydd i’w weld yng nghanlyniadau’r ddau gymhwyster newydd hyn,” meddai Gareth Pierce, Prif Weithredwr CBAC.
“Gan mai cwta ddeufis i mewn i’r flwyddyn ysgol y mae’r gyfres asesu mis Tachwedd yn digwydd, mae digon o amser o hyd ym Mlwyddyn 11 i’r ymgeiswyr hynny sydd am roi cynnig ar wella ar y radd a enillwyd y tro hwn.”
“Rhan o ddiwygiadau helaeth”
Mae’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, i ffwrdd ar ymweliad â’r Ffindir ar hyn o bryd, ond mae hi wedi llongyfrach y disgyblion ar y canlyniadau.
“Rwyf am longyfarch y disgyblion sydd wedi cael canlyniadau’r arholiadau TGAU newydd hyn mewn Mathemateg a Mathemateg Rhifedd, a luniwyd yn benodol ar gyfer Cymru,” meddai.
Mae’r cymwysterau newydd hyn yn rhan o ddiwygiadau helaeth i’n system addysg sy’n rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth gywir i’n pobl ifanc fel y gallant ffynnu yn y byd modern.
“Mae hyn yn ganolog i’n cenhadaeth genedlaethol o godi safonau a sicrhau bod pawb yn cael cyfle i lwyddo.”
Ail-edrych, os bydd raid
Mae’r canlyniadau hyn yn rhai ‘rhagarweiniol’ a bydd cyfle i athrawon ofyn am gael ail-edrych ar raddau rhai disgyblion os byddan nhw’n teimlo bod angen.
Fe wnaeth 51,439 o ddisgyblion sefyll yr arholiadau TGAU Mathemateg newydd, gyda 22,686 yn sefyll yr un Mathemateg cyffredinol a 28,753 yn sefyll yr un Mathemateg Rhifedd.