Tonnau'n torri ar harbwr Seaham yng ngogledd-ddwyrain Lloegr amser cinio heddiw (llun: Owen Humphreys/PA Wire)
Mae miloedd o bobl wedi cael eu rhybuddio i adael eu cartrefi ar hyd rhannau o arfordir dwyrain Lloegr oherwydd peryglon llifogydd.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cyhoeddi 14 o rybuddion difrifol – rhai sy’n rhybuddio am beryglon i fywyd – yn siroedd Norfolk, Suffolk ac Essex yn bennaf.

Mae disgwyl y bydd y perygl ar ei waethaf rhwng llanw uchel ddiwedd y prynhawn ac oriau mân bore yfory.