Nicola Sturgeon Llun: PA
Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi diystyru cynnal ail refferendwm ar annibyniaeth eleni.

Ond dywedodd bod ail bleidlais yn “debygol iawn”, er na fydd hynny’n digwydd yn 2017.

Bu galwadau cryf am gynnal ail refferendwm wedi i drigolion Yr Alban bleidleisio i aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd, yn groes i bleidlais Cymru a Lloegr.

Yn sgil hynny, mae Nicola Sturgeon wedi bod mewn trafodaethau er mwyn gwneud yn siŵr bod yr Alban yn medru aros yn y farchnad sengl, hyd yn oed os yw gweddill gwledydd Prydain yn gadael.

Mae Llywodraeth Yr Alban wedi cychwyn llunio deddfwriaeth ar gyfer refferendwm arall ac yn dweud y bydd yn cael ei ddefnyddio os yw’n meddwl mai annibyniaeth yw’r unig ffordd o warchod ei lle yn Ewrop.