Mae adroddiad newydd yn awgrymu y bydd Brexit yn arwain at leihad enfawr yn ymfudo net yng ngwledydd Prydain.

Yn ôl adroddiad gan Ganolfan Ymchwil Busnes Prifysgol Caergrawnt gall gosod cyfyngiadau teithio llymach ar fewnfudwyr o Ewrop arwain at yr un nifer o bobl yn dod i mewn ac allan o Brydain, ymfudo net o sero.

Os fyddai cyfyngiadau teithio o’r fath yn ddechrau cael ei gosod ar ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yng nghanol 2019 byddai mewnfudo net yn disgyn i 165,000 o 2020 ymlaen, hanner y nifer presennol.

Er hyn mi fyddai ffigur mewnfudo o hyd yn uwch nag targed presennol Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ddegau o filoedd y flwyddyn.

Rhagolygon

Disgwyliad yr adroddiad yw bydd chwyddiant yn uwch ond bydd cyfraddau diweithdra yn is a bydd yr argyfwng tai yn cael ei leddfu.

“Bydd cyfyngiadau ar fewnfudo yn arwain at y sioc fwyaf i fargeinio cyflogau ers dros ddegawd” yn ôl yr adroddiad ac felly mae disgwyl i enillion ar gyfartaledd godi 2%.

Mae’r adroddiad hefyd yn honni byddai gwerth y bunt wedi disgyn Brexit neu beidio, a bod dêl masnach rydd debyg i’r un rhwng Canada a’r Undeb Ewropeaidd yn debygol o gael ei sefydlu rhwng y Deyrnas Unedig a Brwsel.