Brendan Cox
Gweddw Jo Cox fydd yn cyflwyno neges amgen Nadolig Channel 4 dros yr ŵyl eleni, gan alw am roi diwedd ar “gynnydd casineb”.
Bydd Brendan Cox yn talu teyrnged i’w wraig, Aelod Seneddol a gafodd ei llofruddio gan neo-Natsi, Thomas Mair, yn ei hetholaeth Batley a Spen cyn y refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin.
Roedd gan y fam 41 oed ddau o blant ifanc ac roedd yn brwydro dros hawliau menywod ledled y byd.
Bydd ei gŵr yn dweud bod 2016 wedi bod yn “flwyddyn ofnadwy” i’w deulu, ond hefyd yn pwysleisio wrth wylwyr mai nawr yw’r “amser i estyn allan at rywun a allai anghytuno â ni”.
“Roedd Jo yn dwlu ar y Nadolig, y gemau, y traddodiadau, y teulu a ffrindiau yn dod at ei gilydd, ac uwchlaw popeth, cyffro ein plant,” meddai Brendan Cox.
“Y flwyddyn hon, byddwn yn ceisio cofio mor lwcus oeddem ni o gael Jo yn ein bywydau am mor hir – ac mor anlwcus rydym ni o’i chael wedi’i thynnu oddi wrthym.
“Mae 2016 wedi bod yn flwyddyn ofnadwy i’n teulu, ac mae wedi bod yn un rhanedig i’r byd ehangach.”
2016 yn ‘wake-up call’
Bydd yn dweud bod “ffasgaeth, senoffobia, eithafiaeth a brawychiaeth” wedi gwneud y byd yn “rhanedig” a “gallai’r rhain fygwth yr hawliau a’r ddemocratiaeth sylfaenol a frwydrodd ein cyndeidiau drostynt.”
Mae disgwyl iddo ychwanegu nad oes “dim yn anochel am gynnydd casineb.”
“Yn hytrach na bod yn drobwynt er gwaeth, gallai 2016 fod yn wake-up call sy’n dod â ni gyd nôl at ein gilydd.”
Byd Brendan Cox yn dweud bod ei wraig wedi dyfynnu Edmund Burke, a ddywedodd mai’r unig beth sydd angen ar y drwg i ennill yw i ddynion a menywod da “wneud dim”, ychydig o wythnosau cyn iddi farw.
“Dydy hynny erioed wedi bod mor wir,” fydd ei gweddw yn dweud.
Cyfranwyr y gorffennol
Mae Channel 4 wedi darlledu neges ar ddiwrnod Nadolig ers 1993, fel neges amgen i un traddodiadol y Frenhines.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae pobol fel y datgelwr, Edward Snowden, rhieni’r llanc, Stephen Lawrence, a gafodd ei lofruddio, yr ymgyrchydd Katie Piper a’r seren deledu realaidd, Sharon Osbourne, wedi cyflwyno’r neges.