Mae dau herwgipiwr ar awyren o Libya sydd wedi glanio ym maes awyr Malta, ac sydd wedi bod yn rhyddhau teithwyr, bellach wedi rhoi’r ffidil yn y to.

Bu adroddiadau bod criw’r awyren, oedd i fod i deithio o fewn ffiniau Libya, wedi eu rhyddhau.

Ac mae Prif Weinidog Malta wedi dweud bod y ddau herwgipiwr wedi rhoi’r gorau iddi.

Yn gynharach heddiw dywedodd llefarydd y maes awyr fod timau argyfwng wedi cael eu hanfon i’r digwyddiad sy’n cael ei alw’n “ymyrraeth anghyfreithlon”.

Mae Prif Weinidog Malta, Joseph Muscat, eisoes wedi trydar yn dweud bod hi’n bosib bod hijacwyr ar yr awyren o Libya a gafodd ei arallgyfeirio i Malta.

Yn gynharach heddiw dywedodd swyddogion y maes awyr fod yna 118 o deithwyr ar yr awyren Afriqiyah Airways A320.