Mae grŵp bancio Lloyds yn bwriadu prynu busnes cardiau credyd MBNA gan Fanc America mewn cytundeb gwerth £1.9 biliwn.
Daw’r cyhoeddiad wrth i Lloyds gymryd cam pellach tuag at breifateiddio gyda’r llywodraeth yn berchen ar lai na 7% ohono.
Fe fyddai MBNA, sydd ag asedau gwerth £7 biliwn, yn rhoi hwb o £650 miliwn y flwyddyn i Lloyds mewn incwm.
A bydd hynny’n cynyddu cyfran y banc ym marchnad cardiau credyd y Deyrnas Unedig o 15% i 26%.
Dywedodd Antonio Horta-Osorio, Prif Weithredwr Grŵp Lloyds; “mae’r cytundeb hwn, a ariennir drwy gynhyrchu cyfalaf mewnol cryf, yn cynyddu ein cyfranogiad ym marchnad cardiau credyd y Deyrnas Unedig sy’n ehangu.”
Mae disgwyl i’r cytundeb gael ei gwblhau yn ystod hanner cyntaf 2017.