Llys y Goron Birmingham
Mae pedoffeil 101 oed wedi cael ei garcharu am 13 mlynedd am gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant ifanc yn y 1970au a’r 1980au.

Roedd Ralph Clarke eisoes wedi cael rhybudd y gallai wynebu cyfnod sylweddol dan glo am 17 o droseddau gan gynnwys ymosod yn anweddus, 11 achos o anweddustra gyda phlentyn a dau ymgais i gynnal ymosodiad rhywiol difrifol.

Credir mai Ralph Clarke yw’r person hynaf i gael ei ddyfarnu’n euog gan reithgor ym Mhrydain.

Roedd wedi pledio’n euog i naw cyhuddiad yn ymwneud ag un dioddefwr yn ystod yr achos yn Llys y Goron Birmingham.

Wrth ei ddedfrydu dywedodd y Barnwr Richard Bond QC wrth y pensiynwr bod y troseddau yn erbyn tri phlentyn, un mor ifanc â phedair oed, wedi digwydd “droeon” dros gyfnod o nifer o flynyddoedd.

Roedd y tri yn y llys i glywed Ralph Clarke yn cael ei ddedfrydu.