Mae adroddiad newydd yn dangos bod miliwn o gartrefi ym Mhrydain heb gysylltiad rhyngrwyd band llydan digonol.
Mae ystadegau yn adroddiad Connected Nation 2016 Ofcom yn dangos bod 1.4 miliwn o gartrefi Prydeinig methu cael cysylltiad dros 10 megabit yr eiliad.
Mae Llywodraeth Prydain wedi addo sicrhau bod cysylltiad rhyngrwyd band llydan dros 10 megabit ar gael i bawb, ac fe fydd Ofcom yn ymgynghori ynglŷn â hyn.
Yn ôl yr adroddiad mae miliwn yn fwy o gartrefi gyda chysylltiad o’r cyflymderau yma nag oedd flwyddyn ddiwethaf.
Darpariaeth 4G
Yn yr adolygiad cyhoeddwyd bod trafodaethau wedi dechrau â darparwyr rhwydweithiau ffonau symudol ynglŷn â darpariaeth data 4G.
Mae’r cwmni EE wedi addo dod â darpariaeth 4G i 95% o wledydd Prydain erbyn 2020.