Mae bachgen pedair blwydd oed wedi’i ladd wedi iddo fod mewn gwrthdrawiad â char y tu allan i ganolfan hamdden yn ne Lloegr.
Mae Heddlu Thames Valley wedi cadarnhau i’r ddamwain ddigwydd tua 10.25yb heddiw yn Thame. Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw, ond fe fu’r bachgen farw ar y ffordd i’r ysbyty.
Mae’r ymchwiliad i’r digwyddiad yn parhau.