Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad ag ymosodiad rhyw ar fachgen yn ei arddegau yn Birmingham.

Fe gafodd y dyn, 55, ei ddwyn i’r ddalfa gan Heddlu’r West Midlands ddydd Sadwrn, wedi ymosodiad ar fachgen 16 oed yng nghanol y ddinas ar Dachwedd 30.

Yn ol yr heddlu, roedd y bachgen wedi derbyn lifft i safle bws gan ddyn mewn fan, ond fe gafodd ei gloi yn y fan cyn i’r dyn ymosod arno.

Mae’r heddlu hefyd wedi dod o hyd i’r fan y maen nhw’n credu gafodd ei defnyddio yn y digwyddiad.