Mae 83 o bobol a 98 o glybiau pêl-droed yn cael eu hamau o fod yn rhan o’r sgandal cam-drin plant ym myd pêl-droed, yn ôl yr heddlu.

Ac mae’r ymchwiliad yn cwmpasu pob haen o’r gêm “o glybiau Uwch Gynghrair Lloegr i’r rhai amatur” yn ôl Cyngor Cenedlaethol yr Uwch Swyddogion Heddlu (NPCC).

Yn ôl yr heddwas sy’n arwain ar amddiffyn plant ar gyngor yr NPCC mae’r cyhuddiadau yn cael eu harchwilio ar fyrder.

O’r rhai sy’n honni iddyn nhw gael eu cam-drin, mae 98% yn wrywaidd ac roedden nhw rhwng saith ac 20 oed pan ddigwyddodd y cam-drin honedig.

Cafodd 639 o achosion eu cyfeirio drwy linell gymorth yr NSPCC a hefyd yn uniongyrchol drwy luoedd heddlu at yr ymchwiliad, Operation Hydrant.

“Mae’r nifer brawychus a nodwyd gan yr heddlu yn datgelu’r maint pryderus o gam-drin sydd wedi bod yn digwydd o fewn pêl-droed,” meddai llefarydd ar ran yr NSPCC.

“Mae ein llinell gymorth, a lansiwyd gyda chefnogaeth y Gymdeithas Bêl-droed, wedi gweld cynnydd syfrdanol mewn galwadau yn ei hwythnos gyntaf a gall unrhyw un sydd am gysylltu â ni barhau i wneud hynny yn gyfrinachol, gan wybod y bydd rhywun yn gwrando arnynt ac yn eu cefnogi.”