Mae bachgen 15 oed wedi cael ei gyhuddo o ddynladdiad wedi marwolaeth dyn o Wlad Pwyl yn dilyn digwyddiad yn Essex.

Honnir i’r bachgen ymosod ar Arkadiusz Jozwik gyda’r nos ar 27 Awst. Bu farw’r gwr 40 oed yn yr ysbyty ddeuddydd yn ddiweddarach.

Cafodd pum person ifanc eu harestio mewn cysylltiad â’r farwolaeth ond cyhoeddodd Heddlu Essex na fydden nhw’n wynebu cyhuddiadau pellach yn sgil diffyg tystiolaeth.

Roedd adroddiadau cychwynnol yn awgrymu bod marwolaeth Arkadiusz Jozwik yn cael ei drin fel trosedd gasineb ond deallir nad dyna yw’r achos bellach.

Bydd y bachgen 15 oed yn ymddangos yn Llys Chelmsford ar 6 Ionawr 2017.