Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion i ddamwain ffordd ddifrifol ar briffordd yr A499 ger Pwllheli fore Iau .

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 11.40yb ar Ragfyr 1, wedi adroddiadau am wrthdrawiad rhwng cerbyd 4×4 Toyota coch a beic modur o wneuthuriad Honda.

“Rydan ni’n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru.