Mae’r corff rheoleiddio Ofcom wedi gorchymyn bod cwmni BT yn gwahanu oddi wrth ei gangen Openreach, sy’n gyfrifol am fand eang a llinellau ffon, ar ôl i’r cwmni fethu ag ymateb i’w pryderon am gystadleuaeth.

Bydd Ofcom rŵan yn paratoi at wneud cais at y Comisiwn Ewropeaidd er mwyn cychwyn proses gyfreithiol o orfodi’r cwmni i wahanu.

Barn Ofcom yw y dylai Openreach ddod yn gwmni penodol o fewn grŵp BT, gyda bwrdd rheoli sy’n cynnwys aelodau o du allan i’r cwmni.

Roedd BT wedi amlinellu cynlluniau i wneud hynny ym mis Gorffennaf ond nid yw wedi gweithredu.

Y prif bryder yw nad yw Openreach yn trin yr holl gwmnïau y darperir gwasanaethau iddynt yn ffafriol, a bod cwmnïau fel Sky, TalkTalk a Vodafone o dan “anfantais gystadleuol”.

Mae cwmnïau eraill wedi croesawu’r bwriad i ddelio a methiannau o fewn cangen Openreach ond hefyd yn dweud nad yw’r cynlluniau yn mynd yn ddigon pell.