Nigel Farage Llun: PA
Mae Donald Trump wedi awgrymu y dylai Nigel Farage fod yn llysgennad Prydain i’r Unol Daleithiau.

Dywedodd y darpar Arlywydd y byddai arweinydd dros dro Ukip yn gwneud “gwaith da” a bod “nifer o bobl” am ei weld yn dod yn llysgennad y Deyrnas Unedig yn Washington.

Mae sylwadau Trump yn debyg o achosi rhagor o embaras i’r Prif Weinidog Theresa May gan mai Farage oedd y cyntaf i gwrdd â’r darpar Arlywydd. Hyd yn hyn, dim ond sgwrs dros y ffon mae May wedi’i chael gyda Trump.

Dywedodd Nigel Farage wrth y Press Association ei fod wedi ei blesio gan sylwadau Donald Trump gan ychwanegu: “Fel yr ydw i wedi dweud ers i fi gwrdd â’r darpar Arlywydd, hoffwn i wneud unrhyw beth y galla’i i ymddwyn mewn modd positif er mwyn helpu’r berthynas rhwng ein dwy wlad.”

Ond yn ol Downing Street, does “dim swydd ar gael” ac mae wedi canmol llysgennad presennol Prydain, Syr Kim Darroch.