Swyddog carchar Llun: PA
Mae’r Llywodraeth wedi ennill gorchymyn yn yr Uchel Lys i atal staff carchardai rhag gweithredu’n ddiwydiannol.
Cafodd y gorchymyn ei wneud yn dilyn cais brys gan y Llywodraeth i atal Cymdeithas y Swyddogion Carchar (POA) rhag annog aelodau’r undeb i weithredu’n ddiwydiannol.
Roedd miloedd o swyddogion carchar wedi rhoi’r gorau i weithio heddiw mewn protest ynglŷn â phryderon iechyd a diogelwch. Ond mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dweud nad oes cyfiawnhad dros y gweithredu diwydiannol gan honni ei fod yn “anghyfreithlon”.
Mae swyddogion carchar wedi cael eu gwahardd rhag streicio.
Ond mae cyfreithwyr ar ran y POA yn dadlau bod y Llywodraeth wedi methu yn ei dyletswydd i ddarparu system waith diogel.
Mae gorchymyn y barnwr Mr Ustus Kerr yn cael ei weithredu’n syth ac mae disgwyl i swyddogion carchar ddychwelyd i’w gwaith ar unwaith. Mae’n debyg bod hyd at 80% o staff wedi cymryd rhan yn y gweithredu yn y rhan fwyaf o garchardai a dywedodd y barnwr bod y sefyllfa yn “bryderus iawn.”
Fe ddechreuodd y brotest am hanner nos ac mae’n dilyn cyfres o ddigwyddiadau mewn carchardai yn ddiweddar, gan gynnwys llofruddiaeth honedig, terfysg a dau garcharor yn dianc.
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod wedi “cynnal trafodaethau adeiladol gyda’r POA dros y pythefnos diwethaf ac wedi darparu ymateb cynhwysfawr i nifer o bryderon iechyd a diogelwch.”