Vladimir Putin (Llun: PA)
Mae Rwsia wedi cyhoeddi eu bod wedi lansio cyrchoedd awyr yn Syria, ac mae adroddiadau bod cyrchoedd wedi’u cynnal yn rhan ogleddol dinas Aleppo am y tro cyntaf mewn tair wythnos.

Mae’n debyg fod y cyrchoedd wedi cychwyn awr yn unig wedi i Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin ac Arlywydd newydd America Donald Trump drafod Syria dros y ffôn.

Fe fu gweinyddiaeth yr Arlywydd Barack Obama yn ceisio am fisoedd i negydu cadoediad yn Aleppo.

Dywedodd Gweinidog Amddiffyn Rwsia, Sergei Shoigu, mewn cyfarfod â Putin fod yr awyrennau yn targedu storfeydd ffrwydron rhyfel, gwersylloedd hyfforddi a ffatrïoedd arfau yn nhalaith Idlib a thalaith ganolog Homs.

Er hyn, ni soniodd y Gweinidog am Aleppo ei hun, ond mae’r Arsyllfa Hawliau Dynol yn Syria wedi adrodd bod taflegrau wedi’u tanio o longau rhyfel Rwsia ym Môr y Canoldir ac wedi taro ardaloedd yn nhaleithiau Aleppo ac Idlib.