Logo TalkTalk (Llun: O wefan y cwmni)
Mae bachgen 17 oed wedi cyfaddef i saith cyhuddiad o hacio yn ymwneud â’r sgandal yn erbyn cwmni TalkTalk ym mis Hydref y llynedd.

Ymddangosodd y bachgen, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, yn Llys Ieuenctid Norwich heddiw.

Cyfaddefodd i saith cyhuddiad, ac mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu ar Ragfyr 13.

Cafodd y bachgen ei arestio’n wreiddiol ar Dachwedd 3 y llynedd wedi’i gyhuddo o dorri Deddf Camddefnydd Cyfrifiadurol 1990 yn dilyn ymchwiliad gan Uned Troseddau Seibr yr Heddlu Metropolitan.

Cafodd data personol bron 160,000 o bobol eu hacio drwy wefan TalkTalk ar Hydref 21, 2015.

Fis diwethaf, cafodd y cwmni ddirwy o £400,000 gan Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth am ddiffygion diogelu data.