Llys y Goron Caerdydd
Mae dyn wedi’i garcharu am bum mlynedd a hanner am ymosod yn rhywiol ar ddynes ifanc yng Nghaerdydd ym mis Medi.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Aymen Smaili, 35 oed, wedi dilyn y ddynes wrth iddi adael clwb nos yn y brifddinas ac wedi’i threisio yn ardal siopa Stryd y Frenhines.

Fe blediodd y dyn yn euog i’w threisio, a bydd yn gorfod treulio o leiaf hanner ei ddedfryd dan glo a chofrestru fel troseddwr rhyw.