Mae disgwyl i Gabinet Cyngor Dinas Caerdydd drafod cynlluniau a allai adeiladu Morlyn Llanw “11 gwaith yn fwy na Morlyn Abertawe” ym Mae Caerdydd.
Bydd y Cabinet yn cwrdd ymhen wythnos (Tachwedd 21) i drafod y prosiect allai gostio rhwng £6 – 8 biliwn.
Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r cabinet hefyd fel rhan o Adolygiad Hendry Llywodraeth Prydain sy’n asesu morlynnoedd llanw ar draws y Deyrnas Unedig.
Mae’r adroddiad yn argymell y dylid sefydlu Grŵp Craffu Gorchwyl a Gorffen yng Nghaerdydd er mwyn casglu cyngor arbenigol, annibynnol ar y cyfleoedd a’r problemau posibl i’r ardal o ganlyniad i’r morlyn.
‘Prin yw’r wybodaeth’
“Byddai creu Morlyn Llanw ym Mae Caerdydd yn golygu codi morglawdd tua 22 cilometr o hyd yn amgáu ardal tua 70 cilometr sgwâr,” meddai Phil Bale, Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd.
“Mae hwn yn broject peirianneg ac ynni a allai fod o arwyddocâd rhyngwladol, ond eto prin yw’r wybodaeth annibynnol am ba mor ddichonol ac ymarferol yw,” meddai.
“Mae gennym nawr amser i gasglu tystiolaeth annibynnol er mwyn i ni allu ffurfio barn ar sail tystiolaeth ar Forlynnoedd Llanw a’r effaith y byddai un o’r maint hwn yn ei chael ar Gaerdydd a’r ardal o’i chwmpas.”
‘Asesu’n ofalus’
Esboniodd yr Arweinydd ymhellach mai Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth Prydain ar Ynni a Newid Hinsawdd ynghyd ag Arolygiaeth Gynllunio’r Deyrnas Unedig fydd yn penderfynu a ddylid adeiladu’r morlyn ai peidio.
Er hyn, dywedodd Phil Bale ei fod yn awyddus i Gyngor Caerdydd chwarae rôl flaenllaw yn y trafodaethau.
“Gallai prosiect o’r raddfa hon gynnig nifer o gyfleoedd, creu miloedd o swyddi, cynnig ynni carbon isel a gwella ein dewisiadau adfywio. Heb os, gallai fod yn brosiect cyffrous dros ben i Gaerdydd ac i Gymru gyfan,” meddai.
“Fodd bynnag, gallai godi materion amgylcheddol y bydd angen eu hasesu’n ofalus. Mae’n hollbwysig ein bod yn sicrhau ein bod yn cael cyngor arbenigol, annibynnol. Mae Caerdydd yn dymuno bod yn rhan o unrhyw benderfyniad a wneir. Rydym am edrych yn ofalus ar yr holl fuddion posibl.”