Llys y Goron Birmingham
Mae cyn-bencampwraig rhedeg mynydd o Bowys yn wynebu cael ei chadw mewn ysbyty iechyd meddwl, ar ôl iddi gyfaddef ceisio llofruddio dyn.

Fe wnaeth Lauren Jeska, 42, o Fachynlleth drywanu Ralph Knibbs, pennaeth adnoddau dynol Athletau Prydain, yn swyddfeydd y corff ym Mirmingham fis Mawrth.

Cafodd dau weithiwr arall o’r swyddfa anafiadau llai difrifol wrth iddyn nhw geisio ymyrryd yn yr ymosodiad.

Ym mis Medi, fe gyfaddefodd Lauren Jeska i ddau gyhuddiad o fod a chyllell yn ei meddiant mewn man cyhoeddus, dau gyhuddiad o achosi niwed corfforol ac un cyhuddiad o geisio llofruddio Ralph Knibbs, 51.

Clywodd y llys bod ffrae wedi digwydd rhwng y ddau gan arwain at yr ymosodiad ar 22 Mawrth.

Roedd disgwyl i Lauren Jeska gael ei dedfrydu yn Llys y Goron Birmingham ddydd Mawrth ond mae’r llys wedi clywed bod doctoriaid am gynnal profion seicolegol pellach cyn dedfrydu’r athletwraig.

Mae’r achos wedi’i ohirio tan 13 Rhagfyr.