Theresa May Llun; Hannah McKay/PA Wire
Nid oes gan Lywodraeth Theresa May gynllun Brexit na dealltwriaeth o beth fydd effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar ddiwydiant, yn ôl nodyn sydd wedi cael ei ddatgelu.

Mae’r nodyn, sydd â dyddiad o 7 Tachwedd, ac a oedd wedi’i baratoi ar gyfer Swyddfa’r Cabinet, wedi dod i ddwylo papur newydd The Times.

Yn ôl The Times, mae’r nodyn yn awgrymu bod gwahaniaethau barn o fewn y Cabinet yn golygu bod oedi cyn i’r Llywodraeth gytuno ar strategaeth negydu cyn dechrau’r broses o adael yr Undeb ym mis Ebrill.

Mae hefyd yn feirniadol o’r Prif Weinidog am “wneud penderfyniadau a setlo materion ei hun.”