Mae angen i Donald Trump “dyfu i fyny” a rhoi’r gorau i ladd ar fewnfudwyr, meddai arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn.

Mae Corbyn wedi cyhuddo Arlywydd newydd yr Unol Daleithiau o fanteisio ar farn pobol sydd wedi’u dadrithio â sefyllfa economaidd y wlad er mwyn beirniadu mewnfudwyr.

Dywedodd Corbyn wrth raglen Andrew Marr y BBC: “Dylai Donald Trump dyfu i fyny a chydnabod fod yr economi Americanaidd mewn gwirionedd yn dibynnu ar lafur mewnfudwyr.

“Y llynedd, fe gawson nhw Ddiwrnod Heb Fecsicaniaid, ac fe sylwon nhw yn sicr.

“Dw i’n credu bod yr ymdriniaeth o Fecsico gan yr Unol Daleithiau, yn union fel ei iaith abswrd a sarhaus tuag at Fwslimiaid, yn rhywbeth y mae’n rhaid ei herio ac y dylid ei herio.”

Mae gwraig Corbyn, Laura Alvarez yn hanu o Fecsico ac fe ddywedodd ei fod yn “edrych ymlaen” at y posibilrwydd y gallai’r ddau gael sgwrs â’i gilydd rywbryd.

Dywedodd fod yr awgrym y gallai Trump godi wal rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico wedi “cythruddo” ei wraig.